R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfanswm y dyraniad cyllidebol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0511(FIN)
2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw bwerau ariannol a allai gael eu datganoli i Gymru fel rhan o'r broses dydd gwyl Dewi? OAQ(4)0519(FIN)
3. Gwyn Price (Islwyn): Pa ffactorau y rhoddwyd ystyriaeth iddynt wrth ddyrannu cyllid i gyllideb yr economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth? OAQ(4)0508(FIN)
4. Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa ffactorau y rhoddodd y Gweinidog ystyriaeth iddynt wrth ddyrannu cyllid i'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0506(FIN)
5. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y defnydd o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0512(FIN)
6. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa ganran o wariant caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n cael ei ddyfarnu i gwmnïau yng Nghymru? OAQ(4)0501(FIN)W
7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ffactorau y rhoddwyd ystyriaeth iddynt wrth ddyrannu cyllid i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi? OAQ(4)0509(FIN)
8. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Pa gynnydd a wnaed o ran datblygu trysorlys Cymreig yn dilyn cyhoeddi Papur Trysorlys Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0504(FIN)W
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd fydd y Gweinidog Cyllid yn cynnal ei chyfarfod nesaf gyda Gweinidogion cyllid llywodraethau eraill yn y DU? OAQ(4)0505(FIN)W
10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllidebol i'r portffolio addysg a sgiliau? OAQ(4)0503(FIN)
11. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllidebol i bortffolio'r economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16? OAQ(4)0516(FIN)
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth yw'r gost cyfredol i Lywodraeth Cymru o ariannu cynlluniau PFI? OAQ(4)0500(FIN)
13. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y dreth stamp yng Nghymru? OAQ(4)0515(FIN)
14. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymeradwyo prosiectau o dan raglenni cyllid newydd yr UE? OAQ(4)0514(FIN)
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gostyngiad mewn termau real yn y gyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0510(FIN)
Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel cyflogau uwch swyddogion cyngor yng Nghymru? OAQ(4)0528(PS)
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch atebolrwydd cwmnïau a sefydliadau hyd braich a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol? OAQ(4)0524(PS)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i grïwyr tref yng Nghymru? OAQ(4)0520(PS)
4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd polisi Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru? OAQ(4)0526(PS)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r opsiynau y mae'n eu ffafrio ar gyfer uno awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru, yn dilyn ei benderfyniad i wrthod cynigion ar gyfer uno Cyngor Bro Morgannwg gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? OAQ(4)0529(PS)
6. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid i gefnogi gwasanaethau cam-drin domestig? OAQ(4)0519(PS)
7. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sut y mae'r Gweinidog yn cyflawni ei gyfrifoldeb o gysylltu ag awdurdodau heddlu? OAQ(4)0518(PS)W
8. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y costau y mae awdurdodau lleol wedi mynd iddynt wrth baratoi ar gyfer uno gwirfoddol? OAQ(4)0523(PS)
9. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei fwriadau o ran ad-drefnu llywodraeth leol yn y gorllewin? OAQ(4)0522 (PS)W
10. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amodau a chyflog staff y gwasanaeth tân? OAQ(4)0525(PS)W
11. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol yn ne Cymru? OAQ(4)0527(PS)
12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl swyddogion monitro yng Nghymru? OAQ(4)0530(PS)W
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y dylai awdurdodau lleol ymgynghori wrth newid gwasanaethau? OAQ(4)0516(PS)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran gwerthusiadau swyddi gan awdurdodau lleol Cymru o dan y cytundeb statws sengl? OAQ(4)0514(PS)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynllunio busnes mewn gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0521(PS)